Rhif y Ddeiseb: P-06-1341

Teitl y ddeiseb: Canllawiau hygyrch ar gyfer rhieni ac ysgolion er mwyn helpu’r broses o ddatblygu cynlluniau i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Geiriad y ddeiseb: Mae tua 1,400 o blant a phobl ifanc â diabetes math 1 yng Nghymru. O ran y plant hynny sy'n byw ag anableddau o'r fath, mae angen cymorth arnynt yn yr ysgol i reoli eu cyflwr a sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial. Fel mam, rwyf yn un o lawer o rieni nad yw eu plant, sydd â diabetes math 1, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn sgil diffyg dealltwriaeth o’r cyllid ar gyfer darparu’r gofal sydd ei angen yn yr ysgol. Rydw i ac eraill wedi profi diffyg cymorth o ran gofal, ac rwy’n ceisio newid y sefyllfa hon.

Rhagor o fanylion: Rwy'n rhwystredig ynghylch y diffyg mynediad at gefnogaeth bwrpasol; heb y gefnogaeth hon, gall diabetes math 1 arwain at gymhlethdodau sy'n peryglu bywydau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio plant â diabetes yn gyfreithiol fel pobl sy'n byw ag anabledd. Rhaid i sefydliadau addysg fel ysgolion sicrhau nad yw disgyblion sy'n byw gyda diabetes yn dioddef anfantais.

Ni waeth pa mor hyderus yw’r plentyn dan sylw, nid yw plant yn gallu cael eu hyfforddi ar y defnydd o bwmp inswlin tan eu bod yn 11 oed. Felly, gan fod plant yn cael diagnosis o’r adeg y cânt eu geni, mae’r cymorth a ddarperir rhwng yr ysgol feithrin a’r ysgol gynradd yn fwy hanfodol fyth o ran rheoli diabetes.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gam i’w groesawu. Fodd bynnag, dim ond nawr y mae'r Ddeddf honno’n cael ei rhoi ar waith. Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi cyflwyno mesur statudol, sef Cynlluniau Datblygu Unigol, at ddibenion cefnogi myfyrwyr drwy ddatblygu fframwaith cefnogol er mwyn sicrhau bod eu hanghenion academaidd, corfforol a chymorth yn cael eu diwallu.

Rwy'n gofyn i'n Llywodraeth adolygu'r canllawiau presennol ar gyfer y ddeddfwriaeth ADY newydd er mwyn cynyddu cyfranogiad ysgolion/Awdurdodau Lleol drwy greu canllawiau a chymorth ar ffurf hygyrch sy'n lleihau unrhyw rwystrau o ran mynediad.

1.        Crynodeb

§  Mae’r ddeiseb hon yn trafod dau fater, sy’n wahanol i’w gilydd ond yn gysylltiedig i ryw raddau.

§  Mae diabetes yn angen gofal iechyd sydd angen ei reoli fel nad yw'n effeithio'n negyddol ar ddysgu plentyn yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion, awdurdodau lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol, sef Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Mae gan rai dysgwyr ag anghenion gofal iechyd Gynllun Gofal Iechyd Unigol.

§  Os yw plentyn yn bodloni'r diffiniad o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae ganddo’r hawl i Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Gall angen gofal iechyd, fel diabetes, arwain at ADY, ond nid dyma fydd yn digwydd o reidrwydd, a dim ond os caiff y diffiniad ei fodloni. Mae hyn yn golygu bod y plentyn neu’r person ifanc yn cael llawer mwy o anhawster wrth ddysgu na’r mwyafrif o ddysgwyr o’r un oedran, neu fod ganddo anabledd sy’n ei atal neu’n ei rwystro rhag cael mynediad at yr addysg neu’r hyfforddiant a gynigir yn gyffredinol; a bod hyn yn galw am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDdA).

§  Felly nid oes cysylltiad awtomatig rhwng diabetes ac ADY. Dylai ysgolion ddefnyddio'r canllawiau cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd i'w helpu i reoli'r effaith y gall diabetes plentyn ei chael ar eu haddysg. Os oes gan y plentyn ADY hefyd, mae dyletswyddau ar ysgolion ac awdurdodau lleol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol.

2.     Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ynghylch cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys canllawiau statudol (y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol eu hystyried), a chyngor anstatudol. Mae’n cymryd lle canllawiau anstatudol blaenorol o 2010, ac fe’u cyhoeddwyd yn ystod gwaith craffu’r Senedd ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (gweler adran 2.3 o’r papur briffio hwn).

Mae’r canllawiau yn nodi’r pwyntiau allweddol a ganlyn:

§  Dylai dysgwyr ag anghenion gofal iechyd gael eu cefnogi'n briodol fel eu bod yn cael mynediad llawn at addysg, gan gynnwys teithiau ac addysg gorfforol.

§  Rhaid i gyrff llywodraethu sicrhau bod trefniadau ar waith i gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd.

§  Dylai cyrff llywodraethu sicrhau bod staff y lleoliad addysg yn ymgynghori â'r gweithwyr proffesiynol perthnasol, dysgwyr a rhieni i sicrhau bod anghenion y dysgwr ag anghenion gofal iechyd yn cael eu deall yn iawn a'u cefnogi'n effeithiol.

Mae'r canllawiau hefyd yn nodi:

Mae materion gofal iechyd yn effeithio ar bob dysgwr yn unigol a gall cefnogaeth gan y lleoliad addysg gael effaith ar ansawdd eu bywyd a chyfleoedd yn y dyfodol. Felly, dylai cyrff llywodraethu a phenaethiaid sicrhau bod trefniadau yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion penodol y dysgwr ac ystyried sut y mae hyn yn effeithio ar eu haddysg, cyrhaeddiad a lles. Dylai trefniadau roi hyder i ddysgwyr a rhieni bod y ddarpariaeth yn addas ac yn effeithiol.

2.1.          Cynlluniau Gofal Iechyd Unigol

Mae rhai dysgwyr ag anghenion gofal iechyd angen Cynllun Gofal Iechyd Unigol (CIU). Mae'r rhain yn nodi pa gymorth sydd ei angen ar y dysgwr a'r trefniadau ar gyfer hyn.

Mae’r canllawiau’n nodi: “Mae CIU yn hanfodol lle mae anghenion gofal iechyd yn gymhleth, yn anwadal, hirdymor neu lle mae risg uchel y bydd angen ymyriad brys”. Mae hefyd yn cynnwys linc i dempled CIU a gynhyrchwyd gan Diabetes UK.

Dywed y canllawiau: “Mae'n hanfodol bod dysgwyr a rhieni yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio cymorth a rheoli anghenion gofal iechyd”. Mae hefyd yn dweud y dylai rhieni a dysgwyr wneud y canlynol:

cymryd rhan mewn creu, datblygu ac adolygu CIU (os oes un). Gall y rhiant a'r dysgwr fod yn y sefyllfa orau i ddarparu gwybodaeth am sut mae eu hanghenion gofal iechyd yn effeithio arnynt. Dylid eu cynnwys yn llawn mewn trafodaethau ynghylch sut caiff anghenion gofal iechyd y dysgwr eu diwallu yn y lleoliad addysg, a dylent gyfrannu at y gwaith o ddatblygu, a chydymffurfio â'u CIU.

2.2.        Canllawiau gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cyfres o ddeunyddiau gwybodaethynglŷn â chymorth i ddysgwyr ag anghenion gofal iechyd, gan gynnwys canllaw ar gyfer staff addysgu, rhieni a phobl ifanc.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl ynglŷn â diabetes sy'n darparu gwybodaeth fwy cyffredinol.

2.3.        Perthnasedd i Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae'r berthynas rhwng anghenion gofal iechyd, neu anghenion meddygol fel y cyfeirir atynt hefyd, yn destun gwaith craffu gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bumed Senedd ar y Bil ADY yn 2017.

Nododd y Pwyllgor nad yw’r system ADY yn gymwys i ddisgyblion ag anghenion gofal iechyd dim ond oherwydd yr angen gofal iechyd hwnnw, a dim ond os oes ganddynt ADY. Fodd bynnag, diwygiodd y Pwyllgor y diffiniad o ADY yn adran 2 o’r Bil (y Ddeddf wedi hynny) i adlewyrchu’r ffaith y gall ADY ddeillio o angen meddygol, ond y byddai angen iddo fodloni'r meini prawf yn y diffiniad hwnnw o ADY o hyd.

I weld trafodaeth bellach am hyn, gweler crynodeb Ymchwil y Senedd o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil a manylion gwaith craffu’r Senedd ar y Bil.

3.     Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae disgyblion sydd ag anawsterau neu anableddau dysgu sydd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol yn cael eu hadnabod fel rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Dan ddiwygiadau a wnaed gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,  mae’r system ADY newydd yn cymryd lle’r system AAA bresennol/blaenorol.

Mae’r system ADY newydd yn cael ei chyflwyno’n raddol dros gyfnod o bedair blynedd (mis Medi 2021 i fis Awst 2025). Mae'r holl ddysgwyr sydd newydd gael eu nodi ag ADY yn dod o dan y system newydd, tra bod y rhai sydd eisoes yn cael eu cefnogi ag AAA yn cael eu trosglwyddo mewn gwahanol flynyddoedd, yn dibynnu ar eu grŵp blwyddyn a lefel yr ymyrraeth (a oes ganddynt ddatganiad AAA ai peidio). O’r herwydd, mae’r system AAA bresennol/blaenorol a’r system ADY newydd yn gweithredu ochr yn ochr tan fis Awst 2025.

3.1.          Diffinio ADY

Mae dysgwyr y bernir bod ganddynt ADY yn gymwys i gael Cynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol. Mae diffiniad Deddf 2018 o ADY yn faterol yr un peth ag ar gyfer AAA, sef:

§  mae dysgwr yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o'r un oedran (ac ni ellir ei gynorthwyo drwy ddulliau dysgu gwahaniaethol yn unig); neu

§  mae gan y dysgwr anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran; ac

§  mae’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi y gall anhawster neu anabledd dysgu ddeillio o gyflwr meddygol neu fel arall. Fodd bynnag, fel y nodir yn y papur briffio hwn ac yn llythyr y Gweinidog, nid yw cyflwr meddygol yn awtomatig yn golygu bod gan y plentyn ADY, ac ni fydd y system ADY yn gymwys oni bai bod angen DDdY ar y plentyn.

3.2.        Canllawiau gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cyfres o ddeunyddiau gwybodaeth ar y system ADY, gan gynnwys canllawiau i rieni a dysgwyr ôl-16.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.